|
PLAID CYMRU - THE PARTY OF WALES has a vision for a better Wales. This manifesto is a programme which has at its core the need to support and strengthen public services, and to remove injustice and inequality so evident in our society.
Plaid Cymru believes a better Wales means shorter NHS waiting lists and waiting times, it means providing a decent standard of living for everybody, it means ensuring people feel safe in their communities, and it means tackling the growing threat of climate change to ensure the generations to come have a clean and sustainable planet to live in.
A strong Parliament for Wales, as recommended by the Richard Commission will lead to a better Wales for everybody. We ask the people of Wales to have faith in a party which has a vision for Wales, a vision for a fair society, a sustainable environment, a strong economy and a world of peaceful co-existence
OUR AIMS
1. To promote the constitutional advancement of Wales with a view to attaining Full National Status for Wales within the European Union.
2. To ensure economic prosperity, social justice and the health of the natural environment, based on decentralist socialism.
3. To build a national community based on equal citizenship, respect for different traditions and cultures and the equal worth of all individuals, whatever their race, nationality, gender, colour, creed, sexuality, age, ability or social background.
4. To create a bilingual society by promoting the revival of the Welsh language.
5. To promote Wales's contribution to the global community and to attain membership of the United Nations.
Plaid
Ty Gwynfor
18 Park Grove
Cardiff
CF10 3BN
T: +44 (0)29 20646000
F: +44 (0)29 20646001
E: post@plaidcymru.org
MAE GAN PLAID CYMRU - THE PARTY OF WALES weledigaeth am Gymru well. Mae’r maniffesto hwn yn rhaglen a’i galon yn yr angen i gefnogi a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus, ac i gael gwared ar anghyfartaledd ac anghyfiawnder sydd mor amlwg yn ein cymdeithas.
Cred Plaid Cymru fod Cymru well yn golygu rhestrau aros ac amserau aros GIG byrrach, mae’n golygu darparu safon byw safonol i bawb, mae’n golygu sicrhau fod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau, mae’n golygu taclo bygythiad cynyddol newid hinsawdd er mwyn sicrhau fod gan y cenedlaethau i ddod blaned lan a chynaliadwy i fyw ynddi.
Mae Senedd gref i Gymru fel a argymhellodd y Comisiwn Richard yn mynd i arwain at Gymru well i bawb. Gofynnwn i bobl Cymru i roi eu ffydd mewn plaid sydd â gweledigaeth i Gymru, gweledigaeth am gymdeithas decach, amgylchedd gynaliadwy, economi gref, a byd sy’n cyd-fyw yn heddychlon.
EIN HAMCANION
1. Hyrwyddo cynnydd cyfansoddiadol Cymru gyda'r nod o ennill Statws Cenedlaethol Llawn o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
2. Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganolaidd.
3. Adeiladu cymdeithas genedlaethol yn seiliedig ar ddinasyddiaeth gyfartal, parch i wahanol draddodiadau a diwylliannau, a gwerth cydradd pob unigolyn, beth bynnag fo'i hil, cenedligrwydd, rhyw, lliw, credo, rhywioldeb, oedran, abledd na chefndir cymdeithasol.
4. Creu cymdeithas ddwyieithog drwy hyrwyddo adfywiad yr iaith Gymraeg.
5. Hyrwyddo cyfraniad Cymru i'r gymdeithas fyd-eang ac ennill iddi yr hawl i aelodaeth o'r Cenhedloedd Unedig.
Plaid
Ty Gwynfor
18 Park Grove
Caerdydd
CF10 3BN
T: +44 (0)29 20646000
Ff: +44 (0)29 20646001
E: post@plaidcymru.org
|